
Gallwn ni i gyd weld bod hil-laddiad yn digwydd yn Gaza - ac mae'n hen bryd i'r Llywodraeth gydnabod hyn.
Ddoe (04/06/25) galwais ar Lywodraeth y DU i gymryd camau brys i atal dinistrio system gofal iechyd Gaza ymhellach ac i gefnogi ailsefydlu ysbytai a gwasanaethau meddygol sy'n achub bywydau. Wrth siarad yn San Steffan ddoe, dywedais:
“Gallwn ni i gyd weld bod hil-laddiad yn digwydd yn Gaza - ac mae'n hen bryd i'r Llywodraeth gydnabod hyn.
Rydym yn dyst i ddatgymalu system gofal iechyd Gaza yn systematig, gydag Israel yn ddiweddar yn dinistrio’r unig gyfleuster dialysis arennau yng ngogledd Gaza.
Beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i atal system gofal iechyd Gaza rhag cael ei difrodi ymhellach ac i ailsefydlu ysbytai a gwasanaethau meddygol achub bywyd?”
Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog:
“Tra bod y blocâd yn parhau ar waith, ychydig iawn y gall unrhyw bartner allanol ei wneud i geisio sicrhau gwasanaethau iechyd priodol yn Gaza.
Ni fyddaf yn camarwain y Tŷ drwy awgrymu fel arall. Mae’r cymorth sydd wedi dod i mewn o’r Gronfa Ffederal Genedlaethol yn rhy fach ac yn rhy grynodedig yn ddaearyddol i allu darparu’r math o ddarpariaeth y mae pobl Gaza yn gymwys iddi a’r hyn y dylent ei chael, ac mae’n angenrheidrwydd clir o dan Gyfraith Ddyngarol Ryngwladol.”
Ym mis Ebrill, siaradais yn y Senedd yn galw ar Lywodraeth y DU i roi’r gorau i bob gwerthiant arfau i Israel, gan godi fy mhryderon bod bron i (ar 5 Ebrill) 24,000 o fenywod a phlant wedi cael eu lladd yn Gaza ers 7 Hydref, gydag Israel yn torri cyfraith ryngwladol, a hynny i gyd tra bod Llywodraeth y DU wedi sefyll o’r neilltu a chaniatáu i hyn ddigwydd.