Ymgeiswyr Bangor Conwy Môn - Senedd 2026

Ymgeiswyr Bangor Conwy Môn - Senedd 2026

Tîm cryf yn barod i wasanaethu Bangor Conwy Môn

Mae Plaid Cymru yn falch o gyflwyno tîm cryf, profiadol ac ymrwymedig o ymgeiswyr ar gyfer etholaeth newydd Bangor Conwy Môn yn etholiad y Senedd yn 2026. Gyda gweledigaeth glir dros Gymru a chysylltiad dwfn â’n cymunedau, mae’r tîm hwn yn barod i arwain.

Bydd Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru ac Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn ers 2013, yn arwain yr ymgyrch ochr yn ochr â Mair Rowlands, Elfed Williams, ac Dyfed Jones. Mae gan y tîm gyfoeth o brofiad mewn gwasanaeth cyhoeddus, arweinyddiaeth gymunedol, ac ymgyrchu ar lawr gwlad.

“Ym Mangor Conwy Môn ac ar draws Cymru mae pobl yn chwilio am arweinyddiaeth newydd i fynd i adeiladu gwell dyfodol i Gymru – i fynd i’r afael a phroblemau’r gwasanaeth iechyd ac addysg, i greu llewyrch a chyfleon newydd. Yr arweinyddiaeth yna mae Plaid Cymru’n ei gynnig.”
Rhun ap Iorwerth AS


📣 Helpa’r ymgyrch heddiw


Dod i adnabod yr ymgeiswyr

Rhun ap Iorwerth

Arweinydd Plaid Cymru ac Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn ers 2013.

“Rydw i’n falch iawn o gael y fraint i arwain ein tîm rhagorol o ymgeiswyr ym Mangor Conwy Môn ac yn edrych ymlaen at dorchi llewys dros ein cymunedau a dros Gymru.”

Mair Rowlands

Cyn-ddirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd a chyfarwyddwr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor.

Mae’n fraint cael bod yn rhan o dîm o ymgeiswyr sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau. Mae pobl yn ysu am ddechrau newydd – ac mae Plaid Cymru yn cynnig yr uchelgais a’r arweinyddiaeth sydd ei hangen ar Gymru.”

Elfed Williams

Cynghorydd Sir Ddinbych dros Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch a chyfarwyddwr elusen eiriolaeth iechyd meddwl.

“Rwy’n gweld yr heriau mae pobl yn wynebu pob dydd – o wasanaethau cyhoeddus dan bwysau i brinder swyddi da. Bydd ein tîm yn sicrhau bod llais ein hetholwyr yn cael ei glywed yn y Senedd.”

Dyfed Jones

Cynghorydd Sir Ynys Môn a deiliad portffolio Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

“Mae cynrychioli fy mro yn golygu cymaint i mi. Dwi'n edrych ymlaen at ddefnyddio fy mhrofiad i sicrhau bod llais trigolion Bangor Conwy Môn yn cael ei glywed yn glir.”


Pam bod dy gefnogaeth yn bwysig

Gyda Plaid Cymru yn arwain mewn polau ac yn ennill momentwm ledled Cymru, mae Bangor Conwy Môn yn allweddol i sicrhau newid gwirioneddol. Mae’r tîm hwn yn barod – ond mae angen dy gefnogaeth.

📣 Helpa’r ymgyrch heddiw: