Wrth i ni baratoi ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2026, rydym yn falch o gyflwyno tîm cryf o ymgeiswyr dan arweiniad Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. Gyda Mair Rowlands, Elfed Williams, a Dyfed Jones, mae’r tîm yn barod i ymgyrchu dros ddyfodol gwell i’n cymunedau – o Fôn i Fangor, o Landudno i Langwm.

Gyda chefnogaeth gynyddol yn y polau ac ymrwymiad clir i newid cadarnhaol, mae Plaid Cymru yn cynnig yr arweinyddiaeth a’r weledigaeth sydd eu hangen ar Gymru.

Ymunwch â ni wrth i ni adeiladu mudiad cryf dros newid – dros ein cymunedau, a thros Gymru.

Addo pleidlais

Gwna i dy lais gyfrif ym Mangor Conwy Môn, drwy addo dy bleidlais dros Blaid Cymru heddiw.

Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau dyfodol tecach a mwy uchelgeisiol i'n cymunedau ac i Gymru.

Addo dy bleidlais

Rhoi

Dewis swm