Ydych chi angen Placard? Amser i ni roi placardiau Plaid Cymru ar draws Bangor Conwy Mon!

Dros y cyfnod etholiad , rydyn ni’n anelu i roi cymaint o blacardiau â phosibl i fyny ar draws Bangor Conwy Mon er mwyn sicrhau bod ein neges i’w gweld ym mhob cymuned ar draws yr etholaeth.

Os oes gennych le ar ffens, yn yr ardd, ar wal neu wrth ochr y ffordd, mae archebu placard yn un o’r ffyrdd hawsaf a mwyaf effeithiol o gefnogi’r ymgyrch.

Llenwch y ffurflen isod a byddwn yn trefnu dosbarthu a gosod y placard lle bo hynny’n bosibl.


Cofiwch dicio Gyrru diweddariadau i mi ar e-bost hefyd fel y gallwn eich hysbysu am y placardiau, gweithgareddau’r ymgyrch a ffyrdd eraill o helpu yn ystod yr wythnosau nesaf.