Diogelu Dyfodol Meddygfa Betws-y-coed

Diogelu Dyfodol Meddygfa Betws-y-coed

Ers i'r newyddion trist dorri fod meddygon meddygfa Betws-y-coed yn dod a'u cytundeb i ben, mae eich tîm Plaid Cymru lleol wedi bod yn brysur yn ceisio sicrhau dyfodol i'r feddygfa.

Trefnwyd cyfarfod cyhoeddus ar y cyd â Llais, ac rydym yn ddiolchgar i bawb a fynychodd. Cafwyd ymrwymiad gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i barhau a'r feddygfa yn ddelfrydol drwy ddyfarnu cytundeb newydd, neu, os oes angen, drwy redeg y feddygfa eu hunain.

Rydym yn falch o allu rhannu'r newyddion gyda chi bod diddordeb yng nghytundeb y feddygfa ac felly mae posib symud ymlaen i'r cam nesaf o'r broses.

Bydd eich tîm Plaid Cymru lleol yn parhau i gyfathrebu gyda'r Bwrdd Iechyd i sicrhau dilyniant yn y gwasanaeth hanfodol yma.