Hanes personol
Ganwyd Dyfed Wyn Jones ym Mangor. Cafodd ei fagu yn Arfon a'i addysgu yn Ysgol Brynrefail a Phrifysgol Bangor. Heddiw, mae'n byw yn Llanfairpwll ac yn aelod gweithgar o'i gymuned. Yn rhugl yn y Gymraeg, mae'n briod ac mae ganddo ddau o blant.
Cefndir proffesiynol
Treuliodd Dyfed dros 20 mlynedd yn gweithio yn y sector Addysg a Sgiliau yn cefnogi plant a phobl Ifanc. Dechreuodd fel Cynghorydd Gyrfaoedd cyn symud i gefnogi datblygu Sgiliau Sector yn bennaf yn y sectorau Adeiladu ac Ynni. Yn fwy diweddar bu'n gweithio ar ddatblygu dulliau arloesol i gynyddu ymgysylltiad â dysgu sy'n gysylltiedig â STEM. Mae wedi gweithio'n helaeth gyda ystod eang o randdeiliaid o fewn y Llywodraeth.
Hanes gwleidyddol
Etholwyd Dyfed i wasanaethu ward Aethwy ar Gyngor Sir Ynys Môn ym mis Mai 2022. Mae wedi gwasanaethu fel is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu yn ogystal ag eistedd ar baneli Addysg a Chyllid. Penodwyd Dyfed yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn 2023, gan gynrychioli Awdurdodau Lleol. Yn 2024 penodwyd Dyfed yn Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd.
“Mae cynrychioli fy mro yn golygu cymaint i mi. Dwi'n edrych ymlaen at ddefnyddio fy mhrofiad i sicrhau bod llais trigolion Bangor Conwy Môn yn cael ei glywed yn glir.” - Dyfed Jones
📣 Helpa’r ymgyrch heddiw
- ✅ Gwirfoddoli gyda’r ymgyrch
- 💚 Rhoi rhodd i gefnogi’r gwaith
- 🗳️ Addo dy bleidlais i Blaid Cymru
