
Siaradais heddiw i feirniadu Llywodraeth Lafur y DU am bleidleisio i lawr fy ngwelliant i ddatganoli Ystad y Goron i Gymru yn ystod Cyfnod Pwyllgor Bil Ystad y Goron.
Er gwaethaf cefnogaeth gyhoeddus a gwleidyddol eang yma yng Nghymru, dewisodd ASau Llafur gadw rheolaeth a refeniw'r gwely’r môr yn San Steffan – gan fynd yn groes i safiad Llywodraeth Lafur Cymru yn uniongyrchol.
Mae Ystad y Goron yn berchen hyd at 12 milltir o wely’r môr ac mae’n bortffolio gwerth £16 biliwn, gyda’r holl refeniw yn mynd i Drysorlys y DU ar hyn o bryd. Yn 2016, sicrhaodd yr Alban ddatganoli Ystad y Goron, gan ail-fuddsoddi’r refeniw hwnnw mewn cymunedau lleol.
Yn ystod y ddadl, mynnodd Gweinidog y Trysorlys James Murray fod rheolaeth San Steffan yn dod â “mwy o fudd i bobol Cymru a’r Deyrnas Unedig yn ehangach.” Mae’r farn honno’n cyd-fynd â sylwadau gan ein Prif Weinidog, Eluned Morgan, sydd wedi galw’r trefniant presennol yn “annheg” ac yn dweud ei bod yn “brwydro’n galed iawn” am fwy o reolaeth.
Beirniadais hefyd Lywodraeth Lafur Cymru am fethu â chyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor o blaid datganoli – er gwaethaf honni’n gyhoeddus ei bod yn cefnogi hynny. Pleidleisiodd Pippa Hayling AS y Democratiaid Rhyddfrydol o blaid fy ngwelliant; pleidleisiodd pob un o’r naw aelod pwyllgor Llafur i lawr, ac ymataliodd y Ceidwadwyr.
“Roedd pleidlais ddoe yn gyfle i Lywodraeth Lafur y DU ddangos ei bod yn gwrando ar bryderon pobl Cymru am danfuddsoddi a diffyg rheolaeth ar ein hadnoddau. Yn hytrach, fe wnaethom ddewis gadw rheolaeth ar Ystad y Goron yn San Steffan, gan amddifadu ein cymunedau o gyfleoedd economaidd. Mae gan yr Alban y pwerau - felly pam ddim Cymru?”
“Unwaith eto, rydyn ni’n gweld Llafur yn dweud un peth yng Nghymru ac yn gwneud rhywbeth arall yn San Steffan. Yn ddiweddar, dywedodd y Prif Weinidog ei bod yn ‘brwydro’n galed iawn’ dros ddatganoli Ystad y Goron. Ac eto, pan gafodd y cyfle i gyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor i gefnogi eu safbwynt, methodd Llywodraeth Lafur Cymru â gwneud hynny.”
“Nid dyma ddiwedd y ffordd. Pan fydd y Mesur yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin ar gyfer ei gam nesaf, byddwn yn rhoi’r cyfle i bob AS bleidleisio ar gynnig Plaid Cymru i roi rheolaeth ar Ystâd y Goron yn nwylo pobol Cymru a byddaf yn annog ASau Llafur o Gymru i ystyried anghenion eu cymunedau, nid eu plaid.”
Fel eich Aelod Seneddol dros Ynys Môn, byddaf yn parhau i wthio am ddatganoli Ystad y Goron fel y gellir ail-fuddsoddi pob punt sy'n Cael ei gynhyrchu yn ôl yn ein cymunedau.