Mair Rowlands

Mair Rowlands

Hanes personol

Cafodd Mair Rowlands ei geni a’i magu yng Nghaerdydd cyn symud i Fangor i astudio Cymraeg a Diwinyddiaeth yn y Brifysgol gan raddio yn 2010. Fe’i hetholwyd yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg y Coleg rhwng 2010–2012. Mae’n byw ym Mangor gyda’i theulu ac mae ganddi gysylltiadau personol cryf ar draws Bangor Conwy Môn.

Cefndir proffesiynol

Mae gan Mair dros ddegawd o brofiad o arwain ym maes addysg uwch, llywodraeth leol a’r sector wirfoddol. Ei swydd bresennol yw Cyfarwyddwr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor a cyn hynny bu’n Swyddog Datblygu Cynaliadwy yn y Brifysgol yn hyrwyddo cynaliadwyedd ar draws y sefydliad. Mae ganddi brofiad o wirfoddoli fel aelod o Fwrdd Menter Iaith Bangor a Theatr Bara Caws a chefnogi nifer o fentrau cymunedol lleol. Mae ei gwaith proffesiynol yn adlewyrchu ymrwymiad i rymuso pobl ifanc a chymunedau, a hybu cydraddoldeb, y Gymraeg a chynaliadwyedd.

Hanes gwleidyddol

Cafodd Mair ei hethol gyntaf yn Gynghorydd Sir Plaid Cymru ym Mangor yn 2012 yn 23 oed a bu’n gwasanaethu fel Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Blant, Pobl Ifanc a Hamdden. Roedd yn ymgeisydd yn etholiadau San Steffan a’r Senedd yn 2015 a 2016 ac yn 2017 pan yn 28 oed cafodd ei phenodi yn Ddirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd. Mae hi bellach yn sefyll fel ymgeisydd i gynrychioli Bangor Conwy Môn yn y Senedd.

 

Mae’n fraint cael bod yn rhan o dîm o ymgeiswyr sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau. Mae pobl yn ysu am ddechrau newydd – ac mae Plaid Cymru yn cynnig yr uchelgais a’r arweinyddiaeth sydd ei hangen ar Gymru.” - Mair Rowlands

 

📣 Helpa’r ymgyrch heddiw