Cefnogaeth i Sioeau Gwledig

Cefnogaeth i Sioeau Gwledig

Mae Catrin Wager, ymgeisydd Plaid Cymru, wedi bod yn ymweld â sioeau gwledig ar draws etholaeth newydd Bangor Aberconwy dros yr haf, ac mae’n pwysleisio eu pwysigrwydd. 

Dywedodd Catrin:

“Dwi’n credu y gallwn daclo rhai o’r heriau enfawr da ni’n eu hwynebu drwy edrych wrth ein traed.  Mae na nerth yn ein cymunedau, a thrwy weithredu ar lefel leol, gallwn ddechrau ail-adeiladu ein heconomi, creu dyfodol cynaliadwy, ac ail-gysylltu fel unigolion. 

“Mae ein sioeau gwledig yn arddangos rôl hanfodol y diwydiant amaeth mewn creu’r dyfodol yma.  Mae amaethwyr Bangor Aberconwy yn cynhyrchu bwyd o safon, ac mae’n bwysig eu bod yn cael y gynhaliaeth a’r gefnogaeth maent yn eu haeddu.  Ond yn ogystal â hynny, mae ein ffermydd teuluol yn asgwrn cefn ein cymunedau gwledig ledled yr etholaeth; yn cynnal ein diwylliant, ein traddodiadau a’n iaith, ac mae sioeau gwledig yn ddathliad o hynny. 

“Gallwn greu dyfodol cynaliadwy, mewn sawl ffordd, drwy gefnogi ein diwydiant bwyd lleol a’n amaethwyr, a drwy wneud hynny, gallwn sicrhau fod traddodiadau cymunedol arbennig fel ein sioeau gwledig yn parhau.”

“O Ddyffryn Ogwen i Lanrhaeadr, Llansannan  Ysbyty Ifan, mae’r croeso wedi bod yn gynnes ar draws yr etholaeth, a hoffwn ddiolch i bawb sydd yn rhan o’r sioeau yma, boed yn drefnwyr neu’n gystadleuwyr, am eu gwaith caled – da chi’n rhan o rywbeth arbennig iawn.”