Newyddion
-
Lluniau o'r Ymgyrch
Cliciwch yma i weld lluniau o'r ymgyrch - o Gaergybi i Fiwmares ac o Amlwch i Aberffraw rydym wedi bod yn siarad â phobl ym mhob cornel o'r Ynys.
-
Plaid Cymru yn Cefnogi Ffermwyr
Mae rôl ein hamaethwyr yn hanfodol. Dyma pam dywedodd Llinos Medi,
"Rydw i mor falch o'r bwyd safon uchel sy’n cael ei gynhyrchu yma ar Ynys Môn ac ar draws Cymru - gwerthfawrogwn waith caled ein ffermwyr wrth ei gynhyrchu’n ddiogel a chynaliadwy." -
Plaid Cymru yn Sefyll Dros Bobl Ifanc
Dywedodd Llinos Medi, ymgeisydd Plaid Cymru dros Ynys Môn yn San Steffan:"Rwy'n cydnabod yr heriau sy'n golygu bod pobl ifanc yn gadael yr ynys i chwilio am waith, ac yn benderfynol o'i wyrdroi.
-
Pol Pinwn
Erbyn hyn mae llawer o bolau piniwn - boed ar lefel y DU neu Gymru; boed defnyddio methodoleg UNS neu MRS yn dangos yr un peth: Hanes yw'r Torïaid ac o ran San Steffan mae Llafur ar y ffordd i uwch-fwyafrif yn Hosue of Commons. Ond maen nhw hefyd yn dangos mwy na hyn. Ond os crafu'r wyneb fe welwch fod Plaid Cymru ar y trywydd iawn i ennill 4 etholaeth, gan gynnwys yma yn Ynys Môn. -
Teithio Mon

Mae'r pythefnos dwytha wedi hedfan. Dwi wedi'n syfrdanu a'n rhyfeddu gan nifer y bobl sydd wedi addo cefnogaeth i mi yn yr Etholiad Cyffredinol.
-
-
Llinos Medi yn Dyheu am Gymdeithas Decach
Dywedodd Llinos Medi, ymgeisydd San Steffan Plaid Cymru dros Ynys Môn,
"rydw i’n dyheu am gymdeithas ble fo chwarae teg i bawb sy’n rhan ohoni. Mae’r hawl i alw rhywle’n gartref yn greiddiol i hynny, ond mae gymaint o waith ar ôl yn dal i’w wneud i daclo’r argyfwng tai." -
"Ymhell o fod yn rhagorol" - Llinos Medi ar record San Steffan yng Ngogledd Cymru

Dywedodd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, bod record Llywodraeth Geidwadol San Steffan ar Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru "ymhell o fod yn rhagorol".
-
‘Datganiad yr Hydref wedi’i fwriadu fel melysydd cyn-etholiad ond bydd yn gadael blas sur i lawer’ – Rhun ap Iorwerth

Bu Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru, yn San Steffan heddiw'n ymateb i gyhoeddiadau'r Canghellor yn ei Ddatganiad Hydref wedi iddo alw am gyhoeddiad fyddai'n deg ac yn uchelgeisiol i Gymru, gan fynd i'r afael â gwir anghenion ein pobl a'n cymunedau.
-
"Mae angen llai o siarad a mwy o weithredu ar Wylfa" - Llinos Medi

Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad y Grŵp Seneddol Holl-bleidiol ar Ynni Niwclear, sy'n annog gweinidogion y DU i gefnogi Wylfa ar Ynys Môn fel safle ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd flwyddyn nesaf fan hwyraf.
Cafodd prosiect Wylfa Newydd cwmni Horizon ei roi ar stop nol yn 2019 oherwydd methiant Llywodraeth y DU i ddod i gytundeb ariannu, er gwaethaf y gwaith sylweddol oedd wedi ei wneud yn lleol i ddatblyu'r prosiect.

Mae’r Etholiad Cyffredinol wedi ei alw ar gyfer y 4ydd o Orffennaf.