Newyddion
-
"Pwy sy’n brwydro dros Gymru wrth i aeaf caletach fyth fod ar y gorwel?" - Rhun ap Iorwerth

Ar drothwy tymor newydd y Senedd, mae Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi rhybuddio am “aeaf caletach fyth” gan gyhuddo Llafur a’r Torïaid o “ddangos mwy o ddiddordeb mewn brwydro yn erbyn ei gilydd nac mewn brwydro dros Gymru.”
-
Arweinydd Plaid Cymru yn talu teyrnged i staff y GIG ar ei benblwydd yn 75 oed

Heddiw, i nodi pen-blwydd y GIG yn 75 oed, mae Rhun ap Iorwerth AS, Arweinydd Plaid Cymru ac Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn wedi talu teyrnged i'r staff presennol, a staff y gorffennol, am eu gwaith diflino.
-
Cyhoeddi Rhun ap Iorwerth yn Arweinydd newydd Plaid Cymru

Heddiw, fe gyhoeddwyd Rhun ap Iorwerth, Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn ers 2013, yn Arweinydd newydd y Blaid mewn Cynhadledd i'r Wasg yn Mae Caerdydd.
-
Rhun ap Iorwerth yn annog Llywodraeth Cymru i symud ymlaen ar groesiad y Fenai

Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn yn ailadrodd galwadau am ddatrysiad ar faterion diogelwch a gwytnwch
-
Rhun ap Iorwerth yn datgan pryder difrifol am anghysondebau ariannol Betsi Cadwaladr

Mae angen “atebolrwydd a thryloywder llawn” wrth ateb “cwestiynau difrifol iawn, iawn” am y modd yr ymdrinnir ag anghysondebau ariannol byrddau iechyd sy’n ei chael hi’n anodd.
Mae Rhun ap Iorwerth, Llefarydd Iechyd a Gofal Plaid Cymru wedi galw am “atebolrwydd a thryloywder llawn” wrth ymdrin â'r sgandal diweddaraf i daro bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.
-
Llinos Medi: Edrych yn ôl ar y flwyddyn

Mae hi’n flwyddyn bellach ers i Blaid Cymru ddod i rym unwaith eto ar Gyngor Sir Ynys Môn ac ers i Llinos Medi gael ei hethol yn Arweinydd y Cyngor yn dilyn etholiadau hynod llwyddiannus mis Mai 2022.
-
Cau Ffatri 2 Sisters, Llangefni yn ergyd drom i'r ynys

Mae'r cyhoeddiad i gau'r ffatri ieir yn Llangefni wedi arwain at golli 730 o swyddi ar yr ynys.
-
Croesawu Porthladd Rhydd

Mae Plaid Cymru Ynys Môn wedi croesawu’r newyddion fod cais Porthladd Rhydd Ynys Môn wedi bod yn llwyddiannus gyda Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn cyhoeddi eu bod yn cefnogi’r cais. -
“Rhowch y golau gwyrdd ar frys i’r cynlluniau i gydleoli Hwb Iechyd Cybi i gryfhau gofal iechyd Caergybi” – Rhun ap Iorwerth AS

Mae’r cynlluniau’n cynnwys symud gwasanaethau Longford a Cambria i un safle er mwyn gwella profiad y claf, ond mae bloc yn y ffordd.
Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn wedi ysgrifennu yn ei golofn rheolaidd i'r Holyhead & Anglesey Mail heddiw (22/3/23) am yr angen i gyd-leoli meddygfeydd Longford a Cambria yng Nghaergybi, fel bod Hwb Iechyd Cybi – practis a reolir gan BIPBC ers 2019, ar ôl cwymp mewn gwasanaethau meddygon teulu - yn gweithredu mewn “ffordd wirioneddol gydgysylltiedig fel y byddant yn gallu mynd â’u taith o welliant i’r lefel nesaf.”
-
Galw am adolygiad brys o gysylltiad Môn â'r tir mawr

Mae Plaid Cymru Ynys Môn wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad brys o wytnwch cysylltiad Ynys Môn a’r tir mawr.